Pam ydych chi wedi lansio’r Culture lab?
Fel cynifer o feysydd eraill, mae’r celfyddydau a diwylliant a ariennir yn gyhoeddus yn wynebu her enfawr. Bydd y blynyddoedd nesaf yn gweld mwy fyth o bwysau ar adnoddau wrth i artistiaid a’r sefydliadau sy’n hwyluso eu gwaith yn brwydro i gadw at eu cenhadaeth greadigol gyda phrinder arian. Mae newid yn anochel. Bydd yn galw am alluoedd newydd ac yn gofyn am y gallu i feddwl yn wahanol.
Ddeunaw mis yn ôl, daeth Simon Harris (Lucid) a Richard Hawkins (Canolfan Ymchwil Budd y Cyhoedd) at ei gilydd i drafod a oedd unrhyw beth y gellid ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn. Y Culture lab yw’r canlyniad.
Nid yw’r celfyddydau a diwylliant yn bodoli ar eu pennau eu hunain. Mae materion cymdeithasol, economaidd, technolegol, ac amgylcheddol yn effeithio arnynt yn sylweddol, ar raddfa fyd-eang. Ysgrifennodd yr awdur a’r meddyliwr Graham Leicester, “Mae hon yn oes o newid, ac yn newid oes – cyfnod o drawsnewid diwylliannol.”
Lansiwyd Culture lab i helpu i ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr yng Nghymru yn barod ac yn abl i fynd i’r afael â’r problemau hyn, gan ddysgu o’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud eisoes, a chynnig syniadau newydd mewn cyfnod o drawsnewid brawychus.
Beth yw’r dyddiad cau ymgeisio?
Y dyddiad cau yw hanner nos 29 Ionawr 2016.
Faint mae’n ei gostio?
Gweler y dudalen fanylion am drosolwg o gyfraniadau disgwyliedig y cwrs.
Gaf i wneud cais o’r tu allan i Gymru?
O ystyried natur y cwrs, rydym ond yn derbyn ceisiadau gan bobl yng Nghymru. Ond, os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau cwrs tebyg mewn gwlad arall, byddem yn falch iawn i’ch helpu i wneud hynny.
Pa lefel statws ydych chi’n chwilio amdano?
Mae eich uchelgais, y gwaith rydych yn ei wneud, a’ch parodrwydd i gydweithio oll yn bwysicach na theitl eich swydd. Os ydych mewn sefydliad mwy, bydd yn help i gael cefnogaeth gan gydweithwyr uwch, ac rydym yn argymell eich bod yn dewis rhywun i’ch cefnogi chi yn ystod y cwrs fel mentor.
Rydym yn gobeithio am ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol celfyddydau a diwylliant amrywiol, o reolwyr lleoliad i dafleiswyr, o artistiaid cyfrwng gymysg i gynorthwywyr marchnata – cyfranogwyr o wahanol leoedd, profiadau, a disgwyliadau!
Faint o waith sy’n rhaid i mi ei wneud rhwng sesiynau?
Po fwyaf y byddwch yn gweithio, y mwyaf y byddwch yn ei gael o’r profiad, ond bydd o leiaf un diwrnod y mis yn cynnwys y darllen, gwaith cartref, a grwpiau dysgu gweithredu rhwng sesiynau
Ble fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?
Caiff y sesiynau eu cynnal ledled Cymru, gydag o leiaf dwy yng Nghaerdydd a dau ymweliad ymhellach i ffwrdd. Ar wahân i’r ymweliadau, bydd disgwyl i’r cyfranogwyr wneud eu trefniadau teithio eu hunain i’r lleoliadau. Os yw hyn yn peri trafferthion ariannol, nodwch hyn yn eich cais.
Oes rhaid i mi fynychu pob un o’r sesiynau?
Oes. Fel cyfranogwr, rydym yn disgwyl i chi ddod i bob un o’r sesiynau oni bai bod rheswm eithriadol yn golygu bod rhaid i chi golli un.
Sut ariennir y cwrs?
Caiff y cwrs ei ariannu’n bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal â chyfraniadau gan y cyfranogwyr ac o gyllid craidd y sefydliadau sy’n cynnal – Lucid a Chanolfan Ymchwil Budd y Cyhoedd.
Byddem wrth ein boddau’n siarad â chyllidwyr sydd â diddordeb mewn datblygu’r rhaglen hon ymhellach (yn y dyfodol, er enghraifft, byddem wrth ein boddau’n had-ariannu rhai o’r sefydliadau a’r prosiectau sy’n berthnasol a hefyd datblygu tu allan i’r Culture lab).
A oes rhaglenni eraill tebyg i hon?
Er bod prosiectau tebyg wedi bod yn achlysurol, nid oes unrhyw beth fel hyn yng Nghymru ar hyn o bryd. Er bod y Culture lab ar gyfer unigolion o’r sector diwylliannol, mae’n ceisio bod yn lleol ac yn fyd-eang yn ei ffocws. Hon yw’r rhaglen ddatblygiadol gyntaf i arweinwyr diwylliannol sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru fel yr amlinellir yn Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Er mwyn rhoi rhywfaint o gyd-destun, gellir deall datblygu cynaliadwy fel:
Gwella lles economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol pobl a chymunedau, yn lleol ac yn fyd-eang, a chyflawni gwell ansawdd bywyd i’n cenhedlaeth ni a chenedlaethau’r dyfodol
Mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal; ac
Mewn ffyrdd sy’n gwella’r amgylchedd naturiol a diwylliannol ac yn parchu ei derfynau – gan ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau’r ddaear a chynnal ein hetifeddiaeth ddiwylliannol.