Pwy y’ch chi’n feddwl y’ch chi?

Ion 4, 2016 | Dim Sylwadau
Pwy y’ch chi’n feddwl y’ch chi?

Ddydd Mercher diwethaf, 2 Rhagfyr, es i ddiwrnod datblygu a drefnwyd gan Raglen Arweinyddiaeth Clore yn y BBC yn Llandaf.

Mae’n ddeng mlynedd ers i mi gychwyn ar fy nhaith arweinyddiaeth fy hun gyda’r rhaglen fel y Cymrawd cyntaf o Gymru, ac roedd yn eithaf rhywbeth i feddwl faint sydd wedi newid yn y cyfnod hwnnw. Cafodd y profiad effaith fawr ar fy mywyd a fy ngwaith, gan beri i mi edrych yn ôl a meddwl tybed sut y gallwn fod wedi gwneud hebddo. Ond ar y pryd, roeddwn ar fy mhen fy hun. O leiaf, nid oedd Cymrawd arall o fewn 200 milltir i mi. Felly, roedd hi’n heriol gallu prosesu fy mhrofiad a dechrau rhannu’r syniadau. Yn raddol, cafodd eraill yr un profiad, ac mae’r sefyllfa gyffrous bellach – rhwydwaith o dri ar ddeg o Gymrodorion a grŵp ehangach o dros ddwsin sydd wedi cael profiadau tebyg. Gallwn weithio gyda’n gilydd i greu newid, i gefnogi ein gilydd ac i rannu ein syniadau. Iawn, felly – beth? Pa werth sydd i hyn? Ac os ydych yn arweinydd o’r fath, pam nad ydych yn rhedeg unrhyw beth rwy wedi clywed amdano?

Fel y Theatr Genedlaethol neu rywbeth? Mae llawer o bobl yn osgoi meddwl am yr hyn y maent yn ei wneud fel rhywbeth sy’n gysylltiedig ag arweinyddiaeth. Mae eraill yn credu mai’r hyn y maent eisoes yn ei wneud – yn enwedig dweud wrth bobl eraill beth i’w wneud – yw diffiniad gorau arweinyddiaeth. Mae eraill yn amheus ac yn cwestiynu diben trafod y peth hyd yn oed. Fy ateb i yw bod hen syniadau am sut rydym yn trefnu ac yn rhyngweithio â’n gilydd bellach wedi newid a dyddio gymaint bod rhaid i ni ddeall yn well sut y gallwn gael effaith a dylanwad. Er bod dulliau arweinyddiaeth gorchymyn a rheoli yn marw, os nad ydynt yn hollol farw eisoes, mae hefyd yn rhy hawdd teimlo’n fach ac ar drugaredd grymoedd allanol. Nid yw arwain yr un peth â rheoli, ac nid yw’n gyfystyr â bod mewn rôl lle mae gennych gyfrifoldeb gweithredol.

Os ydym am i’r celfyddydau a diwylliant fod yn berthnasol a chael effaith gynaliadwy ar fywydau pobl, rhaid i ni feddwl a gweithredu’n wahanol. Dyna pam rwyf mor gyffrous am ddechrau ar daith newydd – ddeng mlynedd yn ddiweddarach – gyda charfan Labordy Diwylliant a’r ugain unigolyn a fydd yn rhan ohono cyn bo hir.”

Gadael Ateb

Cofrestrwch i dderbyn newyddion